|
Rhif y Ddeiseb: P-06-1469 Teitl y ddeiseb: Rhaid i bolisïau neu brosiectau’r Llywodraeth sy’n costio dros £10 miliwn gael eu cymeradwyo gan etholwyr Geiriad y ddeiseb: Ar gyfer pob un o bolisïau neu brosiectau’r Llywodraeth sy’n costio dros £10 miliwn, dylid cynnal refferendwm lle caiff etholwyr gymeradwyo neu wrthod y cynnig. Rhaid rhoi’r gorau i gamddefnyddio arian cyhoeddus ar gyfer syniadau hunanfaldodus a hurt y Llywodraeth! Mae Llywodraeth Cymru wedi gwastraffu miliynau o bunnoedd o arian trethdalwyr, er enghraifft ar brosiect trychinebus ffordd osgoi’r M4 o gwmpas Casnewydd. Gwastraffwyd £35 miliwn ar gyflwyno terfyn cyflymder 20 mya, sef y polisi diweddaraf i gael ei wrthod gan etholwyr ond fe’i cyflwynwyd beth bynnag. |
Mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi gwybodaeth am gostau mewn sawl ffordd.
Mae’n nodi cynlluniau gwariant ar gyfer meysydd polisi yn ei chyllidebau blynyddol (mae rhagor o wybodaeth i’w gweld isod).
Pan fydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno deddfwriaeth newydd, mae’n aml yn cynnwys amcangyfrifon o gostau mewn memoranda esboniadol.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn cyhoeddi adroddiadau arbenderfyniadau, sy’n aml yn ymwneud â dyrannu cyllid. Mae enghreifftiau diweddar o gyllid o fwy na £10 miliwn yn cael ei ddyrannu yn cynnwys:
· Mehefin 2024 – Hyd at £52.66 miliwn o arian grant cyfalaf i helpu i sicrhau bod holl adeiladau’r sector cymdeithasol mor ddiogel rhag tân â phosibl;
· Mehefin 2024 – £20 miliwn o gyllid cyfalaf yn 2024 i 2025 i gefnogi dysgwyr ag Anghenion Dysgu Ychwanegol;
· Mawrth 2024 – £11.25 miliwn o gyllid cyfalaf ar gyfer Rhaglen Gyllido Cymru, sy’n cefnogi sefydliadau sector cyhoeddus Cymru i gyflawni eu nodau sero net;
· Mawrth 2024 – £70 miliwn ar gyfer y Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio 2024 i 2025; a
· Mawrth 2024 – £39 miliwn drwy’r Grant Rhwydwaith Bysiau ar gyfer 2024 i 2025 i awdurdodau lleol ariannu a sicrhau gwasanaethau bysiau.
Mae Adran 64 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 yn datgan y caiff Gweinidogion Cymru gynnal pôl:
…mewn ardal sy’n cynnwys Cymru neu unrhyw ran (neu rannau) o Gymru at ddiben canfod barn y rhai a holwyd ynghylch a ddylid neu sut y dylid arfer unrhyw rai o swyddogaethau Gweinidogion Cymru (ac eithrio’r rhai o dan adran 62).
Bob blwyddyn, rhaid i Lywodraeth Cymru osod cyllideb ddrafft gerbron y Senedd. Rhaid bod y gyllideb ddrafft yn amlinellu:
…“cynlluniau cyllido a’r symiau o adnoddau ac arian parod y mae’r llywodraeth yn bwriadu eu defnyddio ar gyfer y flwyddyn ariannol ganlynol a darpar symiau ar gyfer y ddwy flynedd ddilynol neu ar gyfer unrhyw gyfnod arall sy’n briodol ym marn y Gweinidog.
Yn dilyn gwaith craffu gan y Senedd (gweler isod), rhaid i Lywodraeth Cymru osod Cynnig Cyllideb Blynyddol, a fydd yn darparu manylion y gyllideb derfynol. Rhaid i’r cynnig hwn gael ei gymeradwyo gan y Senedd.
Gall Llywodraeth Cymru wneud newidiadau i’w chyllideb yn ystod y flwyddyn. Mae'r rhain wedi'u nodi yn ei chyllidebau atodol a byddai angen i’r rhain hefyd gael eu cymeradwyo gan y Senedd.
Mae cyllideb derfynol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024-25 yn amlinellu sut y bydd yn defnyddio tua £27 biliwn i ariannu gwasanaethau yng Nghymru. Ceir dadansoddiadau o arian fesul maes polisi yma.
Yn ei hymateb i’r ddeiseb, dywedodd Llywodraeth Cymru:
Mae gan blaid sy'n ennill mwyafrif o'r seddi, neu bleidiau sy'n gallu ffurfio mwyafrif neu ennyn hyder y ddeddfwrfa, yr hawl i ffurfio llywodraeth ac i geisio gweithredu'r polisïau y cawsant fandad ar eu cyfer yn yr etholiad.
Mae'r llywodraeth yn atebol i'r ddeddfwrfa am weithredu ei pholisïau, a chyfrifoldeb y Senedd yw craffu ar y modd y cânt eu gweithredu, gan gynnwys pa mor gost effeithiol ydynt a'u gwerth am arian, yn ogystal â chasglu tystiolaeth gan arbenigwyr, ac argymell addasiadau. Mae'r ddeddfwrfa, yn ei thro, yn atebol i'r etholwyr am ei gweithredoedd…
Nododd hefyd fod Llywodraeth Cymru yn ymgynghori â rhanddeiliaid ar bolisïau.
O ran defnyddio refferenda, dywedodd:
Er y gall refferenda alluogi ymgysylltu â'r cyhoedd a gwella'r broses ddemocrataidd mewn rhai amgylchiadau, mae ganddynt anfanteision sylweddol hefyd sy'n golygu bod rhaid bod yn ofalus wrth eu defnyddio. Rydym yn nodi dadansoddiad a chasgliadau adroddiad Pwyllgor y Cyfansoddiad Tŷ'r Arglwyddi, Referendums in the United Kingdom. Rydym yn nodi'n arbennig y dadleuon nad yw refferenda yn briodol ar gyfer datrys materion cymhleth ac y byddent yn gostus i'w gweinyddu… nid ydym yn gweld unrhyw reswm dros wyro oddi wrth arferion cyfansoddiadol sefydledig ein democratiaeth gynrychioliadol.
Daeth i’r casgliad a ganlyn:
Amlygodd adroddiad y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru yr heriau cynyddol i ddemocratiaeth Cymru, gan gynnwys lefelau isel o wybodaeth ymysg y cyhoedd am sefydliadau democrataidd Cymru ac ymgysylltu â hwy. Cynigiodd gyfres o ddiwygiadau i gryfhau democratiaeth yng Nghymru, gan gynnwys sefydlu panel arbenigol i helpu i feithrin gallu ar gyfer arloesi democrataidd ac ymgysylltu cymunedol cynhwysol, ac mae gwaith yn mynd rhagddo ar yr agenda hon ar hyn o bryd.
Yn unol â Rheol Sefydlog 19, rhaid i bwyllgor cyfrifol (y Pwyllgor Cyllid ar hyn o bryd):
… ystyried a chyflwyno adroddiad ar unrhyw adroddiad neu ddogfen arall a osodwyd gerbron y Senedd gan Weinidogion Cymru neu gan y Comisiwn ac sy’n cynnwys cynigion ar gyfer trefniadau cyllido, neu defnyddio adnoddau.
Mae’r rheolau sy’n llywodraethu sut y mae’n rhaid i’r Pwyllgor Cyllid ymgymryd â’i waith craffu wedi’u nodi yn Rheol Sefydlog 20.
Hefyd, cytunodd y Senedd a Llywodraeth Cymru ar brotocol ar gyfer y gyllideb o ran yr egwyddorion sy'n sail i broses y gyllideb. Mae’r protocol hwn yn nodi y bydd y Pwyllgor Cyllid:
… yn cynnal ei sesiwn strategaeth cyn y gyllideb ei hun cyn yr hydref. Disgwylir y bydd hyn yn trafod ymgysylltu â'r cyhoedd a gwaith craffu strategol tymor hwy.
O dan Reol Sefydlog 18.2, rhaid i Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus y Senedd:
… ystyried unrhyw ddefnydd ar adnoddau y tu hwnt i’r hyn a awdurdodwyd neu y bernir ei fod wedi’i awdurdodi ac a gofnodwyd yng nghyfrifon archwiliedig Gweinidogion Cymru, y Comisiwn, neu’r Ombwdsmon,… gan argymell a ddylai’r Senedd awdurdodi’r gormodeddau yn ôl-weithredol drwy gyfrwng penderfyniad cyllideb atodol.
Mae gan Archwilio Cymru hefyd rôl wrth graffu ar sut y caiff arian cyhoeddus ei wario. Ystyrir rhai o adroddiadau Archwilydd Cyffredinol Cymru gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus.
|
Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod yr wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn o reidrwydd yn cael eu diweddaru na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol. |